Helo a chroeso i fy nhudalen we!

Cathryn McShane yw fy enw (enw arwyddo: TROEDNOETH), a dehonglydd Iaith Arwyddio Prydain (IAP) /Saesneg sy'n hollol gymwys a chofrestredig ydwyf. Cynnigir dehongli IAP/Cymraeg ar gais, fodd bynnag, hyd heddiw, does dim achredu ffurfiol ar gael ar gyfer yr arbenigedd hwn.

Dwi'n gweithio ar fy liwt fy hun ac yn hunangyflogedig, felly mae'n bosib archebu fy ngwasanaethau yn sessiynol ac yn ad hoc. Cofrestredig ydw i gyda Chyllid a Thollau EM, ac mae gen i gyfrifoldeb bersonol am drefnu treth ac Yswiriant Gwladol.

Dwi'n byw yng Nghaerdydd (De Gymru), a fel rheol byddai'n ystyriad derbyn gwaith mewn ardaloedd y gallai deithio iddo o fewn 2.5 o oriau.

Aelod o Gofrestr Dehonglwyr Iaith Arwyddio Prydain/Saesneg, cofrestredig gan NRCPD (Y Gofrestrau Cenedlaethol o Gweithwyr Proffessiynol gyda Pobol Byddar a Byddar-Dall) ydwyf. Hefyd, aelod llawn o ASLI (Gymdeithas Dehonglwyr Iaith Arwyddio Prydain) (MASLI) ydwyf. Cadarnhaf fod gennyf yswiriant indemniad proffesiynol ac ymchwiliad manwl datgelu Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) - cop ïau ar gael ar gais. Dilynir Canllawiau Côd Ymddygiad NRCPD sydd yn gynnwys polis ïau parthed cyfrinachedd ac amhleidioldeb, a wyf wedi haddewid i ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Gweler enghreifftiau o fy ngwaith cyfredol, profiad blaenorol, cymwysterau, a maesydd arbennigol.

Pe bai angen dehonglydd IAP/Saesneg, cysylltwch â fi gan:

Darllenwch fy nhelerau ac amodau arferol, a'r gwybodath am fy fframwaith ffioedd cyn archebu.